Ar ôl gorffen ei gradd mewn Busnes, yn arbenigo mewn AD, cafodd Hannah ei swydd gyntaf fel Cynorthwyydd AD. Ei nod yw parhau i symud ymlaen o fewn y sector hwn.
Cawsom sgwrs â hi ynghylch sut mae ei Phrentisiaeth Lefel 4 ILM wedi ei helpu i feithrin hyder yn ei rôl.
Dysgu sut i reoli pobl
Cynigiwyd y brentisiaeth i mi pan ddechreuais fel rhan o’m cynllun datblygu. Mae’r cymhwyster yn fy nysgu i reoli fy llwyth gwaith, a rheoli pobl, sy’n rhan fawr o fy rôl. Rwy’n newydd yn y maes, felly mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
Mae’r cwrs yn hyblyg
Mae’r cwrs yn hyblyg iawn. Weithiau gall fod yn anodd cydbwyso’r dysgu o amgylch fy rôl pan fydd gennyf lawer yn digwydd, ond mae fy hyfforddwr hyfforddwr bob amser yn gefnogol gyda hyn. Gallaf anfon e-bost ati i roi gwybod iddi nad wyf yn gallu gwneud y gwaith mewn pryd a gallwn addasu’r terfynau amser.
Meithrin hyder yn fy rôl
Rwy’n hoffi bod astudio’r cymhwyster hwn wedi fy ngwneud yn rhan o brosiectau na fyddwn wedi bod yn rhan ohonynt i ddechrau. Mae wedi fy helpu i fagu hyder yn fy rôl hefyd. Y cam nesaf yn fy ngyrfa fydd lefel swyddog/cynghorydd mewn AD y mae’r brentisiaeth hon yn fy helpu i weithio tuag ato.
Mae ein prentisiaethau ILM yn addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi tîm. Mae tystiolaeth wedi dangos y bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster yn symud ymlaen yn eu gyrfa o ganlyniad uniongyrchol.
Ydy cymhwyster ILM yn swnio’n iawn i chi? Darganfod mwy .