Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar bob un ohonom. Mae prisiau nwy yn codi i’r entrychion, cyfraddau rhent yn cynyddu, ac mae busnesau’n codi eu prisiau i ymdopi.
Rydym i gyd yn gwneud addasiadau i fynd i’r afael â’r argyfwng, fodd bynnag, mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd pobl anabl yn cael eu heffeithio fwyaf.
Pam?
Ar hyn o bryd, mae tua 20% o oedolion yn y DU yn byw ag anabledd. Canfu Scope UK mai dim ond 53% o bobl anabl sydd mewn cyflogaeth, o gymharu ag 82% o bobl nad ydynt yn anabl. Mae pobl anabl 3 gwaith yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar – ddim yn gweithio nac yn chwilio am waith.
Mae costau byw fel arfer yn ddrytach i bobl ag anableddau. Efallai y bydd yn rhaid iddynt wario mwy ar gludiant, gofynion dietegol, offer hygyrchedd, therapi, yswiriant neu wres.
Sut gallwn ni helpu?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau ychwanegol i gefnogi pobl anabl gyda chostau byw a’u hannog i ymuno â’r gweithlu. Un o’r mesurau hyn yw’r cynllun cymell cyflogwyr. Gallai cyflogwyr sy’n recriwtio prentis ag anabledd fod yn gymwys i dderbyn £2,000.
Nod y cynllun yw pontio’r bwlch diweithdra, tra’n annog cyflogwyr i deimlo’r manteision o arallgyfeirio eu gweithlu.
I fod yn gymwys rhaid i’r prentis:
· Datgelu eu hanabledd yn y cam recriwtio
· Bod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos
· Astudio prentisiaeth ar lefelau 2 – 5 (ni chynhwysir prentisiaethau gradd))
Gall y dysgwr hunan-ddatgelu ei anabledd ac nid oes angen iddo ddarparu tystiolaeth. Darganfyddwch fwy am y cynllun .