Skip to content
Mae prentisiaethau yn helpu staff meithrin i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi

Mae Little Chums yn feithrinfa deuluol, gyda thua 51 o blant ac ymroddiad i ddarparu gofal plant o’r ansawdd uchaf. Rhan bwysig o gynnal y gwasanaeth rhagorol y maent yn ei ddarparu yw cyflogi staff medrus sy’n meddu ar yr holl gymwysterau perthnasol.

 

Dros y 2 flynedd ddiwethaf yn gweithio gydag Educ8 maent wedi rhoi 16 aelod o staff trwy brentisiaethau, gyda 6 yn dysgu ar hyn o bryd. Fe wnaethon ni siarad â Chantelle, Rheolwr y Feithrinfa am y budd y mae prentisiaethau’n ei roi i’w gweithlu.

 

Mae ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi

Mae hyfforddiant parhaus yn hanfodol yn ein meithrinfa i fod y gorau y gallwn fod. Mae’n ein helpu i fod yn wybodus am bob datblygiad a damcaniaeth newydd sy’n berthnasol i ni. Mae rhoi ein staff ar brentisiaeth yn rhoi dealltwriaeth well o lawer iddynt o’u rôl. Maent yn teimlo’n deilwng ac yn cael eu gwerthfawrogi gennym ni. Maent hefyd yn elwa o fwy o hyder, cyflog a dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn a ddisgwylir ganddynt.

 

Rhowch yr amser sydd ei angen ar eich staff

I unrhyw fusnes sy’n ystyried recriwtio prentis, byddwn yn dweud – gwnewch hynny. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i roi’r amser sydd ei angen ar gyfer cyfarfodydd, arsylwi a chymorth.

 

Byddem yn argymell Educ8 Training

Heb amheuaeth byddem yn argymell Educ8 Training. Symudwyd aelod o staff o ddarparwr hyfforddiant gwahanol mewn gwirionedd. Rydym yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth a ddarperir a dilyniant ein staff. Mae Jade, Rheolwr Cyfrifon Cwsmer, yn wych ac mae bob amser yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnaf.

 

Dywed 99% o’n cyflogwyr y byddent yn argymell Educ8Training, a bod eu staff yn dda am gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i’w rôl.

 

Dewiswch ni fel eich darparwr hyfforddiant – darganfyddwch fwy.

13th October 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

18th September 2023

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

17th September 2023

Hanner ffordd i gwblhau ILM

12th September 2023

Lansio prentisiaeth newydd sbon i hybu sgiliau gwyrdd

Chat to us

Skip to content