Mae’r darparwr prentisiaethau blaenllaw Educ8 Training Group wedi’i enwi’r cwmni Addysg a Hyfforddiant Gorau i weithio iddo yn y DU, gan gydnabod ymrwymiad y cwmni i foddhad ac ymgysylltiad gweithwyr.
Hefyd wedi’i enwi’r trydydd Cwmni Maint Canol Gorau i weithio iddo ar draws holl gyflogwyr y DU, dyma’r wythfed flwyddyn yn olynol i Educ8, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, gael ei gymeradwyo yng Ngwobrau Cwmnïau Gorau.
Wedi’i sefydlu yn 2004 gan y Cadeirydd Colin Tucker mewn ymateb i brinder sgiliau yn ardal De Cymru, mae tîm Educ8 yn cael ei yrru gan werthoedd craidd gonestrwydd, uniondeb, parch a phositifrwydd, gydag angerdd dros sicrhau bod staff a myfyrwyr yn cyrraedd eu llawn botensial.
Dywedodd Colin Tucker, Sylfaenydd a Chadeirydd Grŵp Hyfforddiant Educ8: “Rydym yn hynod falch o gael ein henwi unwaith eto yn un o’r cwmnïau gorau i weithio iddynt yn y DU. Mae lles ac ymgysylltiad ein gweithwyr yn gwbl flaenoriaeth, wrth i ni ymdrechu i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol i bob aelod o’r tîm.
“Mae gweld Educ8 yn tyfu o 14 o weithwyr i 250 erbyn hyn ac yn esblygu i fod yn un o’r darparwyr prentisiaethau mwyaf blaenllaw yn hynod werth chweil a rhaid diolch i’n tîm gwych a’n Bwrdd Cyfarwyddwyr.”
Gyda rhaglen helaeth o fentrau a gweithgareddau lles, gan gynnwys cefnogaeth 24/7, mwy o becynnau buddion ac amser penodol ‘Rejuven8’, eleni fe wnaeth Educ8 hybu ei ymrwymiad i staff trwy drosglwyddo i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr .
Mae’r strwythur yn gydnabyddiaeth ystyrlon o staff Educ8 sydd bellach yn gyfranddalwyr mwyafrif y busnes, gyda’i gilydd yn berchen ar 51% trwy’r Ymddiriedolaeth ac yn cymryd mwy o ran mewn penderfyniadau strategol allweddol trwy bwyllgor.
Dywedodd Grant Santos, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Hyfforddiant Educ8: “Mae ein holl staff yn Educ8 Training, Aspire 2Be a Haddon Training Ltd yn gwneud y Grŵp yn lle arbennig i weithio. Roedd symud i strwythur EOT yn drawsnewidiad naturiol i ni, gan alluogi ein gweithlu llawn i deimlo ymdeimlad uchel o bwrpas a rennir.
“Ein pobl yw ein hased mwyaf, ac rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod am ein diwylliant cadarnhaol yn y gweithle yng Ngwobrau Cwmnïau Gorau.”
Canfu adborth gan staff Educ8 fod 92% yn hapus gyda’u lles yn y cwmni, sy’n annog cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref, roedd gan 98% berthynas gadarnhaol â’u rheolwr, a chytunodd 94% fod Educ8 yn cefnogi ac yn annog gweithgareddau elusennol.
Mae Educ8 TrainingGroup hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth frenhinol am ei raglen datblygu gweithlu bwrpasol sy’n cefnogi staff i drosglwyddo o aseswyr i hyfforddwyr hyfforddwyr, gan fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn y sector.