Angerdd am ofal plant a chyfoeth o brofiad fel cyn-reolwr meithrinfa yw’r hyn sy’n gwneud rhestr fer Rebecca Strange ar restr fer Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn ddim syndod – heblaw iddi hi ei hun, hynny yw.
Cafodd y ferch ddiymhongar hon, 37 oed o Gaerdydd, sioc i ddechrau, ac yna roedd yn falch iawn o’i henwebiad. “Roeddwn i wrth fy modd, ond wedi fy synnu’n llwyr,” meddai.
“Mae fy rheolwr yn aml yn dweud wrtha i fy mod i’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir, ond rwy’n gweld hynny fel rhan o’r hyn y dylwn fod yn ei wneud bob dydd. Mae bob amser yn fy ngwneud yn falch o weld fy nysgwyr yn datblygu.”
Mae Rebecca yn gweithio fel Hyfforddwr Hyfforddwr mewn Gofal Plant ar draws Lefelau 2 i 5, gan symud rhwng meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a lleoliadau cyn-ysgol, er bod y rôl wedi bod yn gynyddol heriol yn ystod cyfnodau cloi.
Ei rôl yw rheoli, adolygu, asesu a hyfforddi dysgwyr mewn lleoliadau gweithle gyda rhaglenni pwrpasol, wedi’u hategu gan e-bortffolios ac adborth gan gyflogwyr.
Bydd Gwobrau Prentisiaethau mawreddog Cymru, sy’n ddathliad blynyddol o gyflawniadau eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau, yn gweld 35 o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 17 Mehefin.
Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd o Brentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Roedd Rebecca yn allweddol wrth sefydlu llwyfan dysgu Educ8, Moodle, ac mae bellach yn arwain y gwaith o werthuso a datblygu’r rhaglen.
Dywedodd Rebecca: “Rwy’n ffynnu ar allu rhannu fy ngwybodaeth, sgiliau a phrofiadau, gyda fy nysgwyr a chydweithwyr fel ei gilydd.”
Dywedodd y dysgwr, Zara King: “Fe wnes i ffynnu yng ngofal Rebecca. Yn syml, mae hi’n anhygoel yn ei swydd. Roeddwn i eisiau i bawb gael Rebecca fel eu haseswr.”
Ychwanegodd rheolwr rhaglen Educ8, Rhian Jones: “Mae Becky yn tynnu ar ei phrofiadau ym maes gofal plant i danio angerdd am y sector, dyrchafu’r gweithlu a’i sefydlu fel gyrfa o ddewis.”