Wrth gyflwyno ein Rheolwr Cyfrif Cwsmer newydd, Josh:
Helo, fy enw i yw Josh Rees a fi yw’r Rheolwr Cyfrif Cwsmer newydd o fewn y tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Educ8 – byddaf yn gweithio fel rheolwr cyfrifon ar gyfer unrhyw ddysgwyr sydd am wneud Cymhwyster Lefel 3 Plant a Phobl Ifanc.
Gyda dros 5+ mlynedd o brofiad ym maes rheoli cyfrifon, yn benodol o fewn y sector addysg, rwy’n ymfalchïo mewn meithrin perthnasoedd cryf a sicrhau bod y cleientiaid a’r dysgwyr rwy’n gweithio gyda nhw yn cael gwasanaeth o’r safon uchaf. Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau chwarae amrywiaeth o chwaraeon, cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu ac archwilio lleoedd newydd gyda fy mhartner a’n ci bach Toy Poodle.
Rwy’n hynod gyffrous i ymuno â thîm Educ8 ac arwain y cymhwyster gwych hwn. Mae gan Grŵp Educ8 hanes hir ac uchel ei barch o weithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac rwy’n falch ein bod bellach yn gallu cynnig y cymhwyster newydd hwn sy’n canolbwyntio ar ofal ein pobl ifanc.
Mae’r Brentisiaeth Plant a Phobl Ifanc wedi’i hanelu at unigolion sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd mewn lleoliadau fel gofal plant cartref neu breswyl, canolfannau preswyl i deuluoedd, gofal maeth neu leoliadau gofal iechyd yn y gymuned. Bydd dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth, neu hyd yn oed dilyniant, mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym maes gofal plant.
Mae prentisiaethau’n ddewis gwych i ddysgwyr a’u cyflogwyr – bydd unigolion yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, gan wella eu lefelau sgiliau a chyflogadwyedd tra bydd busnesau’n elwa ar weithlu medrus, brwdfrydig ac arbenigol sy’n gallu bodloni gofynion busnes yn well. Os yw pandemig Covid-19 wedi dysgu un peth i ni, dyna pa mor bwysig yw ein gweithwyr allweddol ac edrychaf ymlaen at helpu i gyfrannu at y genhedlaeth nesaf!
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y cwrs ewch i’r Cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu cysylltwch drwy anfon e-bost ataf ar Joshuar@haddontraining.co.uk
07377 890421