Trwy ein partner Aspire 2Be, rydym wedi lansio amrywiaeth o Brentisiaethau TG a Digidol. Mae Diploma Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol bellach ar gael i’w astudio. Bydd yn cael ei ddilyn gan Brentisiaeth Isadeiledd TG, a Meddalwedd TG, Web & Telecoms Professional. Bydd y cymwysterau dysgu seiliedig ar waith hyn yn ategu’r ystod eang o gynhyrchion digidol sy’n canolbwyntio ar Fusnes a gynigir gan Aspire 2Be sydd eisoes yn bodoli.
Mae caffaeliad diweddar Aspire 2Be gan Educ8 Training Group wedi galluogi datblygu’r ystod hon o gymwysterau sy’n arwain y sector. Gan dynnu ar ein harbenigedd prentisiaethau ac arbenigedd TG a Digidol Aspire 2Be. Mae’r cymwysterau’n cynnig cyfle cyffrous i ddysgwyr gael eu haddysgu gan Arbenigwyr Digidol y diwydiant a dod yn arbenigwyr digidol eu hunain.
Wedi’i anelu at athrawon, ac addysgwyr mewn rolau Dysgu a Datblygu
Mae’r cwrs cychwynnol a lansiwyd, Diploma ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol, wedi’i anelu at athrawon, addysgwyr, a’r rheini mewn rolau Dysgu a Datblygu. Bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau, y wybodaeth, a’r cymhwysedd i ennyn diddordeb dysgwyr mewn ystod o brofiadau dysgu digidol hygyrch ac arloesol. Mae’r cwrs yn cwmpasu pob maes addysgu a dysgu, gan archwilio’r gorau o dechnoleg i hybu set sgiliau digidol pob dysgwr.
Meddai Simon Pridham, Rheolwr Gyfarwyddwr Aspire 2Be:
“Rydym yn hynod gyffrous ynghylch sut y gallwn gefnogi dysgwyr ar eu teithiau datblygiad digidol a phroffesiynol wrth symud ymlaen. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag arweinwyr diwydiant, Educ8 Training, i ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd i sicrhau’r gwasanaeth a’r profiad gorau posibl i ddysgwyr.”
Partner ar gyfer Apple, Google a Microsoft
Gyda phortffolio eang o offer, adnoddau a llwyfannau digidol, ac fel Partner Datblygiad Proffesiynol i Apple, Google a Microsoft, mae Aspire 2Be mewn sefyllfa ddelfrydol fel arbenigwyr yn y diwydiant, i ddarparu’r ystod hon o gymwysterau digidol i ddysgwyr.
Dysgwch fwy am ein hystod o Brentisiaethau TG a Digidol