Sut mae gwneud cais am Brentisiaeth?
I wneud cais am brentisiaeth, ewch i’n tudalen swyddi gwag yma lle byddwch chi’n dod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Byddwch yn gwneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr yn yr un ffordd ag y byddech am unrhyw swydd arall. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gyfweliad i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer y rôl.
Nid yw ein prentisiaethau ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol yn unig. Maen nhw ar gyfer unrhyw un dros 16 oed. Felly os ydych chi eisoes mewn swydd ac yn awyddus i ddatblygu eich dysgu, gofynnwch i’ch cyflogwr am astudio un o’n prentisiaethau. Bydd ein tîm ymroddedig o reolwyr cyfrifon cwsmeriaid yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch chi a’ch cyflogwr i’ch helpu i ddechrau arni.
Mae gennym enw da am addysgu o safon a sicrhau canlyniadau gwych. Yn wir, mae 97% o’n dysgwyr yn cytuno a byddent yn argymell Educ8 fel darparwr hyfforddiant i eraill – felly dechreuwch eich prentisiaeth gyda ni heddiw a rhowch hwb i’ch gyrfa.