Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddigwyddiad byd-eang sy’n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Thema eleni yw Dewis Herio.
Yn Educ8 rydym yn frwd dros gydraddoldeb i bawb; credwn fod addysg gyfartal yn cynnig cyfle cyfartal. Mae ein hangerdd yn rhedeg o’r brig i lawr, o’n bwrdd cyfarwyddwyr i’n dysgwyr, mae ein gwerthoedd allweddol yn ein hannog a’n harwain i gofleidio a dathlu amrywiaeth.
Er gwaethaf y ffaith syfrdanol, yn ôl Fforwm Economaidd y Byd, na fydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei sicrhau am bron i ganrif, mae’r DU wedi cymryd camau enfawr ymlaen i sicrhau cynrychiolaeth menywod ar lefel bwrdd. Ym mis Chwefror cyrhaeddwyd targed adolygiad Hampton-Alexander o sicrhau bod 33% o holl aelodau bwrdd y FTSE 100 yn fenywaidd, gan godi o ddim ond 12.5% yn llai na degawd yn ôl.
Yn Educ8 rydym yn falch o chwarae rhan yn y gwaith parhaus i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle, lle mae llwyddiant yn seiliedig ar set sgiliau yn hytrach na rhyw. Mae ein bwrdd yn cynnwys rhaniad 50/50 o wrywod i fenyw, gyda phob aelod yn dod â’u profiad helaeth a’u cronfa o wybodaeth i sicrhau bod ein huchelgais ar gyfer y dyfodol, a’n hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth, yn cael eu cyflawni. Dywedodd ein cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid Ann Nicholas:
“Mae diwrnod rhyngwladol menywod i mi yn ymwneud â nodi pwysigrwydd menywod amrywiol yn cefnogi ei gilydd yn y gweithle; dathliad o gyflawniad a chydraddoldeb merched. Ni ddylai rhyw fod yn ffactor yn y gweithle – dylai galluoedd person ddibynnu ar eu cryfderau unigol a’u nodweddion personoliaeth. Rwy’n falch o weithio ochr yn ochr â thîm gwych yn The Educ8 Group, sy’n llawn angerdd, dycnwch, disgyblaeth ac uchelgais. Mae cymaint o fanteision yn dod ynghyd ag ef, ac ar frig y rhestr mae’r ffaith bod aelodau eich tîm yn eich helpu i ddod yn fersiwn gryfach, well ohonoch chi’ch hun. Nid oes arnaf ofn herio ar unrhyw lefel – o her daw newid.”
Rydym wrth ein bodd bod ein dysgwyr hefyd yn cael eu cydnabod am eu gwaith yn gwella cydraddoldeb. Mae Rhyanne Rowlands, sydd wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Lefel 4 Cyngor ac Arweiniad ac Arwain a Rheoli, wedi’i henwi’n ddiweddar yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 am ei gwaith gyda Chymorth i Fenywod. Mae Rhyanne, sy’n ddioddefwr cam-drin domestig ei hun, bellach yn rhoi o’i hamser i rymuso menywod eraill, gan eu hannog i ddewis herio eu gorffennol i greu dyfodol gwell iddynt hwy eu hunain a’u plant.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Grant Santos
“Rydym yn hynod falch o gefnogi cyfle cyfartal i bawb yn Educ8. Nid dim ond eirioli cynhwysiant ac amrywiaeth rydym yn ei fyw ac yn ei anadlu. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn hoffem ddiolch i bob aelod o staff, pob dysgwr a phob cyflogwr rydym yn gweithio gyda nhw am ein helpu i ddewis “herio”, gan ein galluogi i greu amgylcheddau gwaith a chymunedau gwell i bawb. Hoffem hefyd ddiolch i’r holl fenywod sydd wedi galluogi Educ8 i ddod yn sefydliad y mae heddiw, yn sefydliad bywiog a llwyddiannus, wedi’i adeiladu ar werthoedd cryf gyda chydraddoldeb ac amrywiaeth yn ysgogi’r llwyddiant hwnnw.”.