Skip to content
Diwrnod Gwerthfawrogiad Gweithwyr

Mae heddiw (dydd Gwener 5ed Mawrth), yn Ddiwrnod Gwerthfawrogiad Gweithwyr!

Yn y Grŵp Educ8 mae ein pobl yn golygu popeth i ni. Heb ein gweithlu llawn cymhelliant a gofalgar, sy’n ymgorffori ein gwerthoedd o onestrwydd, uniondeb, positifrwydd a pharch, ni fyddai’r cwmni wedi gallu cyflawni’r llwyddiant a’r clod sydd ganddo. Mae iechyd a lles ein staff bob amser wedi bod o’r pwys mwyaf i ni ond, wrth gwrs, mae’n bwysicach nag erioed.

Sefydlwyd Grŵp Educ8 yn 2004 gan Gadeirydd y Grŵp Colin Tucker ac mae’n darparu rhaglenni Prentisiaeth a hyfforddiant i gwsmeriaid ledled De Cymru mewn ystod eang o sectorau. Bellach yn cyflogi tua 150 o staff, mae’r busnes yn cael ei arwain gan y Prif Swyddog Gweithredol, Grant Santos, gyda diwylliant cryf sy’n cael ei yrru gan werthoedd a ffocws di-baid ar gyflwyno addysg o safon i’n dysgwyr a’n cyflogwyr.

Yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws, rydym fel sefydliad wedi cyflwyno sesiynau ‘Rejuven8’ 30 munud bob dydd sy’n galluogi staff i gymryd 30 munud bob dydd, o 1 – 1.30pm, i ‘gamu i ffwrdd’ o’u sgriniau gweithfan a gliniaduron. Y nod yw bod staff yn defnyddio’r amser hwn (sy’n ychwanegol at eu hegwyl ginio) i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n cefnogi eu lles fel ymarferion HIIT, mynd am dro, aerobeg ac ati. Fel ymateb uniongyrchol i’r pandemig coronafeirws rydym hefyd wedi creu hwb Holi ac Ateb sy’n galluogi staff i leisio unrhyw bryderon/ymholiadau yn uniongyrchol i’r Uwch Dîm Arwain tra bod sesiynau Communic8 yn gyfle i ddal i fyny.

Yn Educ8 rydym hefyd yn cynnal gwobrau Gr8 misol, sy’n gyfle i staff enwebu eu cydweithwyr y maen nhw’n meddwl sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl, fel bod o gymorth ychwanegol i gydweithiwr. Mae Bwrdd Celebr8 yn cael ei goladu a’i gynhyrchu bob pythefnos i ddathlu ac amlygu cyflawniadau staff ac i ddosbarthu unrhyw ddiweddariadau allweddol. Mae buddion eraill i staff yn cynnwys gwyliau pen-blwydd, diwrnodau Appreci8, 121 misol, cyfarfodydd llesiant 6 mis a gwobrau hyd gwasanaeth am 5, 10 a 15 mlynedd.

Dywedodd Colin Tucker, Cadeirydd Grŵp Educ8 “Mae ein staff wrth galon ein sefydliad, maen nhw’n darparu’r ocsigen sy’n galluogi ein sefydliad i dyfu a ffynnu, mae eu hiechyd a’u lles bob amser yn ganolog i’n proses gwneud penderfyniadau a gallaf ddweud yn onest ein bod yn treulio cymaint o amser yn ystod cyfarfodydd rheoli ar les staff fel y gwnawn ar faterion ariannol a materion eraill.

Rydym yn hynod falch o’n pobl ac o’u cyflawniadau ac mae’r buddsoddiad o amser, egni ac arloesedd a wnawn i greu diwylliant sy’n cael ei yrru’n wirioneddol gan werthoedd yn cael ei ddychwelyd dro ar ôl tro drwy berfformiad uchel a chyflawniad sy’n cael ei yrru gan ansawdd.

Fel y gwelwch yn Educ8 rydym wir yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, sy’n caniatáu i ni wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau lleol, felly oddi wrthym ni i chi – diolch!

13th October 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

18th September 2023

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

17th September 2023

Hanner ffordd i gwblhau ILM

12th September 2023

Lansio prentisiaeth newydd sbon i hybu sgiliau gwyrdd

Chat to us

Skip to content