Mae gan Grŵp Educ8, (sy’n ymgorffori ISA Training ), hanes heb ei ail o gyflwyno rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol, Prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith o ansawdd uchel i gyflogwyr ledled De Cymru.
Fel deiliad contract allweddol gyda Llywodraeth Cymru, mae Grŵp Educ8 yn darparu cymwysterau Gofal Plant a ariennir yn llawn.
Beth yw CCPLD?
Mae’r cymwysterau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai sydd angen y cymwysterau gorfodol i weithio yn y sector Gofal Plant. Mae’r cymwysterau CCPLD yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio naill ai mewn meithrinfa, lleoliad gofal plant neu sy’n warchodwr plant cofrestredig. Mae’r cyrsiau’n cael eu cyflwyno yn eich gweithle ac yn cael eu trefnu o amgylch eich oriau gwaith.
Lefel 2
Mae hwn yn gymhwyster lefel mynediad ar gyfer y rhai sy’n cymryd eu camau cyntaf mewn gyrfa yn y Sector Gofal Plant
Lefel 3
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth
a/neu ddilyniant gyrfa yn y Sector Gofal Plant
Lefel 4 – Ymarfer Proffesiynol
Mae hwn yn gymhwyster uwch wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol Gofal Plant
Lefel Ymarfer 5 – Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae hwn ar gyfer Rheolwyr sy’n dymuno symud ymlaen o’u cymhwyster lefel 4
*I fod yn gymwys i gofrestru ar gyfer cymhwyster CCPLD, rhaid i chi fod yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos*
Beth yw PFS?
Mae PFS (Cynnydd ar gyfer Llwyddiant) yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n gweithio rhwng 10 – 16 awr yr wythnos yn y sector Gofal Plant a Chwarae.
Mae cymhwysedd ar gyfer PFS yn cynnwys:
- Gall fod yn lefelau CCPLD 2 a 3 yn unig
- Mae rheol ariannu dwbl yn berthnasol o hyd
- Rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig rhwng 10 ac 16 awr
- Dim cyfyngiad ar hyd gwasanaeth
*Sylwer bod yn rhaid i’r dysgwr feddu ar CCLD L3 neu gyfwerth fel gofyniad mynediad a thrwy ymgymryd â’r cymhwyster hwn maent yn ‘ychwanegu’ at eu gwybodaeth o weithio gyda phlant hyd at 12 oed i gydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol*
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm ar 01443 749000 / enquiries@haddontraining.co.uk